Bryson yn “gwobrwyo” elusennau lleol fel rhan o ymgyrch ailgylchu newydd

Mae Bryson Recycling wedi ymuno â dau gyngor lleol i lansio cynllun ailgylchu newydd gyda’r nod o gynyddu cyfraddau ailgylchu lleol, a chodi arian i elusennau lleol ar yr un pryd.

Fel rhan o’r ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu”, bydd yr elusen yn derbyn £1 am bob tunnell sy’n cael ei hailgylchu yn y pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych. Bydd yr ymgyrch yn para am flwyddyn a’r ddwy elusen fydd yn elwa yw Hosbis Dewi Sant a Hosbis Sant Cyndeyrn, sy’n rhoi gofal arbenigol, o ansawdd, am ddim i bobl leol sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd.

Mae Bryson Recycling bellach yn rheoli tair Canolfan Ailgylchu yn ardal Cyngor Sir Ddinbych, sef y Rhyl, Rhuthun a Dinbych, yn ogystal â’r ddwy ganolfan mae wedi bod yn eu rhedeg yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sef Mochdre ac Abergele, ers 2014. Am bob tunnell fydd yn cael ei hailgylchu ar safleoedd Sir Ddinbych, byddwn yn cyfrannu £1 i Hosbis Sant Cyndeyrn; am bob tunnell fydd yn cael ei hailgylchu ar safleoedd Conwy, byddwn yn cyfrannu £1 i Hosbis Dewi Sant. 

Dyma un o blith sawl menter gymunedol mae’r fenter gymdeithasol yn bwriadu ei chyflwyno wrth ehangu ei gweithrediadau yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling:

“Rydyn ni’n falch iawn o lansio ein hymgyrch Gwobrau Ailgylchu, gan greu partneriaeth gyda dwy elusen leol werth chweil. Trwy’r fenter hon, ein gobaith yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ailgylchu a’r cyfraniad cadarnhaol mae’n ei wneud i’r cymunedau lle rydyn ni’n byw ac yn gweithio. Hoffwn annog aelwydydd lleol i wneud eu rhan dros yr amgylchedd ac ailgylchu cymaint â phosibl yn ein safleoedd – po fwyaf y byddwch yn ailgylchu, y mwyaf y byddwn yn cyfrannu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’r ddau gyngor i gyflwyno ein dull ailgylchu blaengar ar draws y pum safle gyda’r nod o gynyddu cyfraddau ailgylchu ac ailddefnyddio, a darparu gwasanaeth gwych i breswylwyr lleol ar yr un pryd. Rydyn ni hefyd yn awyddus i chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau lleol a gweithio gyda nhw.”  

Dywedodd Michaella Brannan, Codwr Arian Cymunedol a Digwyddiadau Hosbis Sant Cyndeyrn:

“Diolch i Bryson Recycling am gefnogi Hosbis Sant Cyndeyrn drwy’r ymgyrch Gwobrau Ailgylchu. Rydyn ni wrth ein bodd i gael ein dewis! Nid yn unig maen nhw’n helpu’r amgylchedd, ond bydd y cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ofal diwedd oes a lliniarol ar gyfer ein cleifion yng ngogledd ddwyrain Cymru.”

Dywedodd Margaret Hollings, Cyfarwyddwr Masnachol Hosbis Dewi Sant:

“Rydyn ni’n hynod o falch o gael ein dewis fel un o’r elusennau ar gyfer yr ymgyrch hon ac rydw i’n ddiolchgar i Bryson Recycling am roi’r cyfle hwn i’r hosbis.  Fe fydd yr ymgyrch ailgylchu nid yn unig yn dod ag elw ariannol i ni, bydd hefyd yn tynnu sylw at broblem fyd-eang fwy, ac yn annog pobl i anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi a bod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol. Rydyn ni’n gefnogol iawn o hyn yma yn Hosbis Dewi Sant ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld y gwahaniaeth y bydd y bartneriaeth yn ei wneud”.

I gael rhagor o wybodaeth am Bryson Recycling ewch i www.brysonrecycling.org.