Rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd yng Nghonwy.
Gallwch gofrestru yma am gasgliadau ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022–Mawrth 2023.
COFRESTRWCH YN AWR
Gweld taflen am y gwasanaeth
A fyddech cystal â darllen Telerau ac Amodau ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd https://www.brysonrecycling.org/wales/gwastraffgardd/telerau-ac-amodaur-gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd-bob-pythefnos
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi danysgrifio i’r gwasanaeth?
- Byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth.
- Bydd unrhyw finiau rydych wedi eu harchebu yn cael eu danfon atoch cyn pen 10 diwrnod gwaith.
- Byddwn yn postio sticer taliad atoch ar gyfer pob bin rydych wedi talu amdano. Glynwch y sticer ar gaead eich bin fel bod ein criwiau casglu yn gwybod eich bod wedi talu am y gwasanaeth. Os nad oes sticer ar y bin, ni fydd yn cael ei wagio.
- Byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos.
- Os nad yw eich eiddo yn addas ar gyfer bin, ffoniwch ni ar 01492 555 898.
Edrychwch am eich diwrnod casglu
Pam ddylwn i danysgrifio i’r gwasanaeth hwn?
- Casgliad rheolaidd bob pythefnos.
- Bin olwynion 240 litr hawdd ei ddefnyddio.
- Dim angen mynd i’r Ganolfan Ailgylchu i gael gwared ar wastraff gardd.
- Mae’r holl wastraff gardd rydym yn ei gasglu yn cael ei gompostio’n lleol.
- Am bob tunnell o wastraff rydym yn ei gasglu, rydym yn cyfrannu £1 i elusen leol drwy ein Hymgyrch Gwobrau Ailgylchu.
Faint mae’n ei gostio?
- Cost casgliadau yw £35 y flwyddyn am un bin brown.
- Costau casgliadau yw £20 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol.
- Gall pob cartref archebu hyd at 4 bin.
- Bydd biniau yn cael eu danfon am ddim ar eich archeb gyntaf. Codir tâl o £20 i ddanfon unrhyw finiau ychwanegol ar ôl eich archeb gyntaf.
- Mae’r rhain yn brisiau sefydlog ar gyfer y flwyddyn, rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Gallwch danysgrifio i’r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond bydd y tâl blynyddol yr un fath.
Pa eitemau gallwch eu hailgylchu
Rhoi gwybod am broblem
Cwestiynau Cyffredin
Adborth Cwsmeriaid
Mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Rydym yn gwerthfawrogi barn ein cwsmeriaid ac rydym yn falch o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu sylwadau ynglŷn â sut gallwn wella ein gwasanaethau.
AROLWG BODDHAD CWSMERIAID