Canolfannau Ailgylchu Cymru

Rydym yn rhedeg pum Canolfan Ailgylchu yng Nghymru ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych. Mae’r rhain ym Mochdre, Abergele, Y Rhyl, Rhuthun a Dinbych. Rydym yn casglu amrywiaeth eang o eitemau ar gyfer eu hailgylchu ac rydym hefyd yn derbyn gwastraff gardd a gwastraff cartref.

Trefnu Apwyntiad

Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu.

Os ydych yn byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gallwch drefnu apwyntiad yma

Os ydych yn byw yn ardal Cyngor Sir Ddinbych gallwch drefnu apwyntiad yma

Gall pob aelwyd ymweld â’r safleoedd hyd at 6 gwaith bob dau fis.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyrraedd y Ganolfan Ailgylchu?

  • Dylech geisio cyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau.
  • Bydd gennych 10 munud ar gyfer eich ymweliad ar y safle. Dylech sicrhau eich bod yn gorffen dadlwytho eich gwastraff o fewn yr amser hwn.
  • Dim ond dau berson fydd yn cael mynd allan o’r car – dewch ag eitemau y gallwch eu cario yn unig.
  • Gwisgwch ddillad addas fel menig ac esgidiau cadarn os ydych yn trin eitemau miniog neu drwm
  • Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich gwastraff cyn dod, er mwyn sicrhau y gallwch ddadlwytho o fewn y slot 10 munud.

Os byddwch yn ymddwyn yn ymsodol tuag at staff ar y safle, gofynnir i chi adael ac mae’n bosibl y bydd yr Heddlu yn cael eu galw.

Oriau Agor

  Dydd Llun – Dydd Sadwrn Dydd Sul
Ebrill – Hydref 9.00 – 17.00 9.00 - 16.00
Tachwedd – Mawrth 9.00 - 16.00 9.00 - 16.00

Sylwer:

  • Safle Dinbych – ar gau bob dydd Iau
  • Safle Rhuthun – ar gau bob dydd Gwener
  • 27 – 31 Rhagfyr: Mae safleoedd Abergele a Mochdre ar agor tan 17:00.  Mae’r holl safleoedd eraill ar agor yn ôl yr arfer tan 16:00.

Gwyliau Banc

Bydd ein safleoedd ar gau ar y dyddiadau canlynol:

  • 25 Rhagfyr
  • 26 Rhagfyr
  • 1 Ionawr

Lleoliadau

Canolfan Ailgylchu Abergele – Ffordd Rhuddlan, St George, Abergele. LL22 9SE

Canolfan Ailgylchu Mochdre – Ffordd Bron-y-Nant, Mochdre, Bae Colwyn. LL28 4YL

Canolfan Ailgylchu Dinbych – Ystad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych. LL16 5TA

Canolfan Ailgylchu y Rhyl – Ffordd Marsh, Y Rhyl. LL18 2AD

Canolfan Ailgylchu Rhuthun – Ystad Ddiwydiannol Lon Parcwr, Rhuthun. LL15 1BB

Pa eitemau sy’n cael eu derbyn

Yn ein Canolfannau Ailgylchu mae gennym gynwysyddion ar gyfer gwahanol ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu. Er mwyn gwneud eich ymweliad yn fwy hwylus ac yn gynt, rydym yn gofyn i chi ddidodli eich deunyddiau ailgylchu cyn i chi ddod i’r safle. Dylai’r holl eitemau ailgylchu fod yn lân. Bydd ein staff yn hapus i’ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd sy’n bosibl. 

Gallwch ailgylchu’r eitemau canlynol am ddim: 

Eitemau Cyfarwyddiadau
Papur  Dim deunydd pecynnu seloffan, e.e. ar lythyrau sothach 
Plastig

Poteli, potiau, tybiau a blychau plastig

Dim eitemau sydd wedi baeddu 
Gwastraff gardd 

Dail, toriadau/torion, brigau a changhennau bach yn unig.                 

Dim pridd, rwbel, potiau planhigion, bagiau compost ac ati
Poteli a jariau gwydr Dim gwydr wedi torri
Batris  
Tecstilau  
Caniau Rhaid i’r caniau a’r chwistrellau fod yn hollol wag cyn eu taflu 
Cartonau   
Dodrefn  
Eitemau trydanol   
Cetris argraffu   
Metel sgrap   
Cardfwrdd  
Setiau teledu a monitorau   
Carpedi   
Plastig caled Dodrefn plastig, teganau, ac ati 
Beiciau

Rydym yn casglu beiciau sy’n addas i’w hailddefnyddio yn ein holl safleoedd. Os hoffech gyfrannu beic i fenter Drosi Bikes CIC ewch â’r beic i’n safle yn Rhuthun.

Gallwch gael gwared ar yr eitemau canlynol am ddim ond mae cyfyngiadau o ran nifer/maint yr eitemau: 

Eitemau Cyfyngiadau 
Gwastraff cartref   2 leiner bin bob pythefnos. Dim ond gwastraff anifeiliaid anwes fydd yn cael ei dderbyn. Nid yw gwastraff amaethyddol/fferm yn cael ei ganiatáu
Gwastraff anifeiliaid  2 leiner bin bob pythefnos. Dim ond gwastraff anifeiliad anwes fydd yn cael ei dderbyn. Nid yw gwastraff amaethyddol/fferm yn cael ei ganiatáu
Tiwbiau fflworolau  5 y flwyddyn 
Cynwysyddion tanwydd Rhaid eu torri yn 2 ddarn o leiaf
Cemegion cartref  Poteli bach yn unig, a rhaid eu labelu’n glir a’u selio’n dda. Nid yw cemegion diwydiannol yn cael eu caniatáu
Hen olew peiriannau neu olew coginio  10 litr y flwyddyn 
Paent 

15 uned y flwyddyn 

Mae "uned" yn 2.5 litr (neu gyfwerth) 
Batris ceir  2 y flwyddyn 
Matresi  2 y flwyddn 

Gallwch fynd â’r eitemau canlynol i’n Canolfannau Ailgylchu Cartref, fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi dalu er mwyn cael gwared ar y rhain:

Eitem

Tâl

Rwbel a phridd 

Uchafswm pwysau a ganiateir yw 20kg y bag

Hyd at 20kg am ddi

Yn cynnwys eitemau fel blociau adeiladu, brics, cerameg, teils, cerrig llorio, graean, llechi, cerrig a tharmac

£2.20 y bag

£22.00 am lond trêlyr

Bwrdd plastr

£4.40 y bag neu’r bwrdd

£33.00 am lond trêlyr

Coed a phren

Uchafswm pwysau a ganiateir yw 20kg y bag

Hyd at 5kg am ddim

Mae gwastraff DIY neu adeiladu yn cynnwys: dodrefn gosod, drydau a chypyrddau cegin, ffensys, siediau, lloriau a decin.

£4.40 y bag

£33.00 am lond trêlyr

Asbestos

Asbestos wedi’i fondio yn unig. Rhaid i’r asbestos fod mewn bag dwbl.

£13.75 y bag neu’r darn

Teiars

Teiars ceir a beiciau modur yn unig, dim teiars cerbydau masnachol.

Teiars beics am ddim.   

£4.00 y teiar

Poteli nwy

Poteli nwy hollol wag.  

Hyd at 10kg - £6.00 yr un
11kg-20kg - £11.00 yr un
20kg + - £35.00 yr un

Fframiau ffenestri plastig

Gyda/heb wydr. Ffenestri un-gwydr yn unig. Codir tâl am 2 eitem am ffenestri sy’n cynnwys sawl gwydr. 

£3.00 yr un

Drysau neu fframiau drysau plastig

Gyda gwydr neu heb wydr. Drysau neu fframiau drysau sengl yn unig. Byddwn yn codi dwbl am ddrysau dwbl.

£3.00 yr un

Offer ystafell ymolchi

Yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) eitemau fel baddonau, lloriau cawodydd, toiledau, bidets, basnau/sinciau, sgriniau cawod/bath ac unedau ymolchi.

£3.00 yr un

Deunydd yn ynysu

Eitemau fel deunydd ynysu gwlân mwynau a gwydr ffibr. 

£3.00 y bag

Felt toi

Ffelt toi siediau a garejys. 

£3.00 y bag
Peipiau dŵr, landeri neu estyll tywydd plastig

£3.00 am hyd at 5 darn

£6.00 am hyd at 10 darn 

Sut rydym yn cyfrifo’r taliadau hyn?

Mae’r taliadau yn cael eu cyfrifo ar sail nifer/maint y deunyddiau – fesul eitem unigol, bag neu lwyth trêlyr.

  • Mae bag yn cyfateb i fag safonol, bach, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i gario tywod neu agregau o siopau DIY, y gall unigolyn ei godi’n ddiogel ar ei ben ei hun. Mae bag hanner llawn yn cyfrif fel un bag.
  • Mae llwyth trêlyr yn seiliedig ar drêlyr 8m x 1.25m x 0.5m.
  • Codir tâl fesul bag am unrhyw wastraff rhydd nad yw mewn bag, yn seiliedig ar 20kg y bag am rwbel.

1. Bydd aelod staff yn asesu’r maint i gyfrifo’r tâl, a bydd yn pwyso’r gwastraff os yn bosibl.

2. Bydd yn rhoi gwybod i chi beth yw’r tâl yn seiliedig ar y pwysau neu ei asesiad rhesymol o’r llwyth.

3. Nid oes yn rhaid i chi dalu’r tâl, ond ni chaniateir i chi gael gwared ar eitemau heb dalu. Gallwch gael gwared ar unrhyw wastraff cartref am ddim.

Sut gallaf dalu?

Gallwch dalu â cherdyn credyd neu ddebyd yn y peiriannau talu ar y safleoedd.

Compost am ddim

Gall preswylwyr gasglu compost am ddim o’n Canolfannau Ailgylchu. 

  • Dewch â bagiau a rhaw gyda chi
  • Gallwch lenwi a mynd â dau fag 40 litr ar y tro. Ni ddylai bagiau bwyso mwy na 20kg ar ôl eu llenwi.
  • Mae compost ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
  • Oherwydd cyfyngiadau o ran lle a’r galw uchel am y compost, mae’r cyflenwad yn gyfyngedig.
  • Rydym yn ailgyflenwi’r stoc ar y safleoedd yn rheolaidd, ond mae’n bosibl y bydd y cyflenwadau yn isel ar adegau, neu na fydd compost ar gael o gwbl.
  • Gall preswylwyr sy’n gwneud apwyntiad i ddod ag eitemau i’r Canolfannau Ailgylchu gasglu compost am ddim ar yr un pryd.
  • Ewch â’r hyn y gallwch ei gario ar eich pen eich hun yn unig, neu’r hyn y gallwch ei gario gydag unigolyn arall sydd wedi dod gyda chi.

Siop Ailddefnyddio

Mae Hosbis Dewi Sant yn rhedeg Siop Ailddefnyddio yn ein Canolfannau Ailgylchu ym Mochdre a’r Rhyl.

Nod y prosiect hwn yw ymestyn oes eitemau cartref y gellir eu hailgylchu, gan gynhyrchu elw ar gyfer elusen leol bwysig iawn ar yr un pryd.

Mae’r siopau ar agor ar hyn o bryd ac yn derbyn rhoddion. Os oes gennych eitemau yr hoffech eu cyfrannu, mae croeso i chi alw heibio.

Oriau Agor

  Dydd Llun – Dydd Sadwrn  Dydd Sul 
Ebrill – Hydref 

9.00 - 16.30

9.00 - 15.30
Tachwedd - Mawrth 9.00 - 16.00 9.00 - 15.30

Adborth Cwsmeriaid

Mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Rydym yn gwerthfawrogi barn ein cwsmeriaid ac yn falch o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu sylwadau o ran sut gallwn wella ein gwasanaethau.

AROLWG BODDHAD CWSMERIAID