Bryson yn newid gêr wrth Ailddefnyddio gyda Drosi Bikes CIC

Mae Bryson Recycling wedi ymuno gyda Drosi Bikes CIC i gasglu beiciau y gellir eu hailddefnyddio. Bydd beiciau yn cael eu casglu yn y Ganolfan Ailgylchu yn Rhuthun sy’n cael ei rhedeg gan Bryson ar ran Cyngor Sir Ddinbych.

Bydd y fenter newydd hon yn rhoi bywyd newydd i feiciau nad yw pobl bellach yn eu defnyddio, gan hyrwyddo’r buddion seiclo i’r amgylcheddol a’n lles ar yr un pryd. Mae Drosi Bikes CIC yn fenter gymdeithasol leol yn Llangollen, Sir Ddinbych, sy’n trwsio ac yn gwerthu beiciau gan roi’r holl elw i gefnogi gweithgareddau cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd unrhyw feiciau nad ydynt yn addas i’w hailddefnyddio yn cael eu hailgylchu ar gyfer darnau.

Ers mis Mai 2021, mae Drosi wedi ailgylchu a thrwsio dros 165 o feiciau, ac mae llawer o’r rhain wedi cael eu gwerthu neu eu rhentu er mwyn hybu seiclo fel dull teithio amgen yn lle gyrru. Mae’r fenter yn gwella sgiliau ac yn grymuso grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli drwy gynnal gweithdai a dosbarthiadau sy’n cefnogi unigolion i seiclo; mae hefyd wedi cyfrannu nifer o feiciau i elusennau ffoaduriaid a cheiswyr lloches lleol.

Wrth gyfeirio at y cynllun newydd, dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr gyda Bryson Recycling:

“Yma yn Bryson, rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wneud ein hardal leol yn fwy gwyrdd ac rydyn ni’n awyddus i ddod o hyd i ddulliau o leihau gwastraff gan ddod â budd i’r gymuned leol yn yr ardaloedd lle rydyn ni’n gweithio. Rydyn ni’n hynod o falch ein bod yn gweithio gyda Drosi Bikes CIC ac rydyn ni’n credu bod hyn yn ffordd wych i annog trigolion lleol i ailddefnyddio eu beiciau”.

Ychwanegodd Beth Ward, Cyfarwyddwr / Cyd-sefydlydd Drosi Bikes:

“Un o brif nodau Drosi Bikes CIC yw cynnig atebion hygyrch i newid hinsawdd. Mae gweithio ar y cynllun hwn gyda Bryson Recycling yn gyffrous iawn, gan ein bod yn helpu i leihau gwastraff yn Sir Ddinbych ac yn rhoi cyfle i bobl gael effaith gadarnhaol ar y byd. Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld rhai o’r beiciau hyn ar y ffordd unwaith yn rhagor! Dylai beiciau sy’n cael eu cyfrannu fod mewn cyflwr da, heb arwyddion amlwg o rwd neu ddifrod. Rydym yn derbyn beiciau plant ac oedolion”.

Os hoffech gyfrannu, ewch â’ch beiciau i Ganolfan Ailgylchu Rhuthun, Stad Ddiwydiannol Lon Parcwr, Rhuthun. LL15 1BB. I gael manylion pellach ac oriau agor, ewch i www.brysonrecycling.org.