Mae ein hymgyrch ‘Gwobrau Ailgylchu’ yn ffordd unigryw o annog ailgylchu ac yn rhoi cyfle i ni roi rhywbeth nôl i’r cymunedau lle rydym yn darparu ein gwasanaethau.
Mae gennym 3 ymgyrch Gwobrau Ailgylchu ar hyn o bryd:
1. Gwobrau Ailgylchu – Casgliadau wrth ochr y ffordd, Gogledd Iwerddon
Rydym yn rhedeg ein hymgyrch yng Ngogledd Iwerddon gyda thri chwmni lleol sef, Cherry Pipes, Encirc a Huhtamaki, sy’n troi’r gwastraff ailgylchu rydym yn ei gasglu gennych yn gynnyrch newydd. Am bob tunnell o bapur, plastig a gwydr a ailgylchir gan ein gwasanaeth wrth ochr y ffordd, bydd elusen leol yn derbyn cyfraniad o £1.
2. Gwobrau Ailgylchu – Gwastraff Gardd, Cymru
Rydym yn rhoi £1 i elusennau lleol am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir drwy ein gwasanaeth sy’n gweithredu yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
3. Gwobrau Ailgylchu – Canolfannau Ailgylchu, Cymru
Rydym yn rhoi £1 i elusennau lleol am bob tunnell o wastraff a ailgylchir yn ein pum Canolfan Ailgylchu, sy’n cael eu rhedeg gennym ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych.
Gwobrau Ailgylchu – Canolfannau Ailgylchu, Cymru
Yn 2023, gwnaethom gyfrannu bron i £6000 at ddwy elusen hosbis leol – Hosbis Dewi Sant a Hosbis Sant Cyndeyrn, sy’n darparu gwasanaeth mor hanfodol yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithredu. Gallwch ddarllen mwy yma.
Gwobrau Ailgylchu – Gwastraff Gardd, Cymru
Yn 2022, gwnaethom rannu £6690 rhwng Conwy Mind a Hope Restored. Cafodd y swm a roddwyd i bob elusen ei bennu drwy bleidlais ar-lein a oedd ar agor i breswylwyr Cyngor Conwy. Mae Conwy Mind yn cefnogi gwell iechyd meddwl a lles, ac mae Hope Restored yn rhedeg banc bwyd ac yn cynnig cymorth i bobl ddigartref yn Llandudno. Gallwch ddarllen mwy yma.
Gwobrau Ailgylchu – Gwastraff Gardd, Cymru
Yn 2021, gwnaethom gyfrannu £6551 at dair elusen leol – Hosbis Dewi Sant, Hosbis Plant Tŷ Gobaith a Bwyd Bendigedig. Cafodd y swm a roddwyd i bob elusen ei bennu drwy bleidlais ar-lein a oedd ar agor i breswylwyr Cyngor Conwy. Mae Hosbis Dewi Sant yn darparu gofal arbenigol i bobl sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd, mae Hosbis Plant Tŷ Gobaith yn darparu gofal lliniarol i blant â chanser ac mae Bwyd Bendigedig yn gweithio gyda chymunedau lleol drwy dyfu a dathlu bwyd lleol. Gallwch ddarllen mwy yma.
Gwobrau Ailgylchu – Casgliadau wrth ochr y ffordd – Gogledd Iwerddon
Yn 2021, gwnaeth ein hymgyrch yng Ngogledd Iwerddon gefnogi 'Cronfa Bryson' sy’n cael ei darparu gan Grŵp Elusennol Bryson. Cafodd 'Cronfa Bryson' ei sefydlu i helpu’r bobl yn ein cymuned leol sydd wedi dioddef oherwydd pandemig COVID-19. Gwnaeth ein cyfraniad gefnogi nifer o brosiectau gwahanol, gan gynnwys “Young Sparks” a oedd yn annog dysgu, sgiliau bywyd a chydnerthedd i bobl ifanc. Gallwch ddarllen mwy yma:
Gwobrau Ailgylchu – Gwastraff Gardd, Cymru
Gwnaethom lansio ein hymgyrch Gwobrau Ailgylchu yng Nghymru yn 2020 gan gyfrannu £6100 at Fanc Bwyd Conwy sy’n darparu cymorth hanfodol i unigolion a theuluoedd yn ardal Conwy. Gallwch ddarllen mwy yma.
Gwobrau Ailgylchu – Casgliadau wrth ochr y ffordd – Gogledd Iwerddon
Yn 2019 gwnaethom gyfrannu dros £21,000 at MACS NI sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc sydd wedi wynebu amseroedd anodd yn eu bywydau.
Gwnaeth yr arian hwn helpu i gefnogi 2 brosiect newydd a oedd yn cael eu rhedeg gan MACS NI, un cartref therapiwtig arloesol newydd ar gyrion Belfast o’r enw ‘My House’, sy’n helpu plant ag anghenion cymhleth nad oes modd eu cefnogi gan gartrefi plant neu ofal maeth a Muddy Paws, prosiect cymdeithasol o dan arweiniad pobl ifanc sy’n darparu gwasanaeth glanhau a brwsio anifeiliaid anwes a mynd â chŵn am dro. Gallwch ddarllen mwy yma.
Gwobrau Ailgylchu – Casgliadau wrth ochr y ffordd, Gogledd Iwerddon
Yn 2018 penderfynodd yr ymgyrch gefnogi PIPS (Public Initiative for the Prevention of Suicide and Self Harm) a chyfrannu dros £16,000. Gwnaeth yr arian hwn helpu’r elusen i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i’r bobl fwyaf anghenus. Mae PIPS yn darparu dros 400 awr o gwnsela bob mis, yn ymdrin yn effeithiol ag unrhyw achosion brys sy’n codi, yn cynnig cymorth i ffrindiau a theuluoedd mae achosion o hunanladdiad yn effeithio arnynt ac yn helpu i addysgu pobl am iechyd meddwl, pa arwyddion y dylid cadw golwg amdanynt ac ymyrraeth gynnar. Gallwch ddarllen mwy yma.
Gwobrau Ailgylchu – Casgliadau wrth ochr y ffordd – Gogledd Iwerddon
Yn 2017 gwnaethom gyfrannu dros £12,000 i’r Children's Heartbeat Trust, sy’n darparu cymorth hanfodol i blant sy’n aml yn cael diagnosis o gyflyrau sy’n newid eu bywydau. Gwnaeth hyn alluogi’r elusen i roi cymorth ariannol i dros 20 o deuluoedd y mae eu plant yn cael llawdriniaeth ar y galon a thriniaethau cysylltiedig. Hefyd, prynodd yr elusen 13 o beiriannau Coagucheck sy’n galluogi plant i fonitro eu cyflwr calon eu hunain yn effeithiol yn y cartref, ynghyd â diffibriliwr, a darparodd 35 o sesiynau cwnsela i rieni yr oedd eu plant wedi cael diagnosis. Gallwch ddarllen mwy yma.