Croesawu Cyfraniadau Bwyd yng Nghanolfan Ailgylchu Mochdre

Mae Bryson Recycling yn cydweithio gyda Crest a FareShare Cymru i ddarparu ardal ar gyfer derbyn cyfraniadau bwyd yng Nghanolafn Ailgylchu Mochdre, ger Bae Colwyn.

Bydd y cyfraniadau bwyd yn cael eu hanfon i bantri cymunedol Crest, yn siop Crest ar Ffordd Ferry Farm, Cyffordd Llandudno. Mae’r gymuned yn cyfrannu bwydydd y gellir eu cadw ar dymheredd ystafell, fel tuniau, reis, pasta a grawnfwydydd. Gall unrhyw un ddefnyddio’r pantri heb brawf modd, felly mae ar agor i bawb.

Mae Bryson Recycling bellach yn rheoli pum Canolfan Ailgylchu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych a dyma un o blith sawl menter gymunedol sydd ar y gweill gan y fenter gymdeithasol.

Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling “Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud cyfraniad cadarnhaol yn yr ardal lle rydyn ni’n byw ac yn gweithio ac rydym yn falch iawn o lansio’r fenter newydd hon yn ein Canolfan Ailgylchu lle byddwn yn ailddosbarthu bwyd yn lleol. Os ydych yn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Mochdre, a fyddech cystal ag ystyried cyfrannu at y rhaglen hon er mwyn helpu’r rhai sydd mewn angen yn ein cymuned leol.”

Dywedodd Rod Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Crest: “Dylai bwyd fod ar gael i bawb, ac rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw hi i roi bwyd ar y bwrdd gyda chostau byw yn cynyddu. Mae Crest wedi ymrwymo i helpu pobl yn ein cymuned, a dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r fenter hon i ddarparu bwyd i bobl leol. Mae ein banc bwyd ar agor bob bore Mawrth a bore Iau rhwng 11am a 12pm, gan gynnig ffordd hwylus i bobl gael bwyd a nwyddau hylendid hanfodol ".

Os hoffech gyfrannu at y pantri cymunedol, dewch ag unrhyw un o’r eitemau canlynol i Ganolfan Ailgylchu Mochdre:

- Grawnfwyd

- Cig tun (Cyri, Chilli, Peli cig, Cŵn poeth, Peis, ac ati)

- Llaeth hir oes (UHT)

- Tatws tun

- Reis /Pasta sych

- Te/Coffi

- Llysiau tun (Pys, Moron, Tatws, ac ati)

- Pysgod tun

- Pwdinau tun (Ffrwythau, Cwstard, Pwdin reis, ac ati)

- Cawl (tuniau a phacedi)

- Bisgedi

- Cyffeithyddion (Preservatives)

- Saws Pasta

- Nwyddau Hylendid a Nwyddau Babi

A fyddech cystal â sicrhau bod unrhyw fwyd rydych chi’n ei gyfrannu heb fynd heibio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’.