Pleidleisiwch dros eich hoff elusen fel rhan o ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu”

Mae Gwobrau Ailgylchu, ymgyrch arloesol sy’n cael ei rhedeg gan y fenter gymdeithasol leol, Bryson Recycling, yn bedair oed eleni. Fel rhan o’r ymgyrch flynyddol hon mae Bryson yn cyfrannu £1 i elusen am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir gan y gwasanaeth bin brown mae’n ei ddarparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

O ddechrau mis Hydref 2022 tan ddiwedd mis Medi 2023, casglodd Bryson dros 7869 tunnell o wastraff gardd, felly bydd yn cyfrannu £7869 i elusen.

Mae tair elusen wedi cyrraedd y rhestr fer eleni ac mae Bryson yn gofyn i breswylwyr lleol bleidleisio dros yr elusen yr hoffent weld Bryson yn ei chefnogi. Bydd yr arian a gaiff ei roi i bob elusen yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau y byddant yn eu derbyn.

Yr elusennau eleni yw The Lily Foundation, elusen clefyd mitocondriaidd fwyaf y DU ac ariannwr elusennol mwyaf blaenllaw ymchwil mitocondriaidd yn Ewrop; Banc Bwyd Conwy Wledig sy’n gwasanaethu preswylwyr Llanrwst ac ardaloedd gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy ddarparu parseli bwyd i bobl sy’n wynebu caledi, a ReSource CIC, elusen nid-er-elw sy’n cynnal gweithgareddau eco-gynaliadwy i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned a’r amgylchedd lleol.

Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling “Rydyn ni’n darparu casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos i dros 22,000 o aelwydydd yn ardal Cyngor Conwy, ac am bob tunnell o wastraff gardd sy’n cael ei gasglu bob blwyddyn, rydyn ni’n cyfrannu £1 i elusen. Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn gallu gwneud cyfraniad mor hael eleni, ein cyfraniad uchaf erioed, ac hoffwn annog preswylwyr lleol i gymryd rhan a phleidleisio dros yr elusen maen nhw’n dymuno ei chefnogi”.

Ychwanegodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaeth a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy “Trwy ailgylchu eu gwastraff gardd, gall preswylwyr lleol helpu’r amgylchedd a chefnogi elusennau lleol ar yr un pryd. Rydyn ni’n awyddus i weld preswylwyr lleol yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a hoffwn eu hannog i bleidleisio dros eu hoff elusen”.

I bleidleisio dros eich hoff elusen, ewch i www.brysonrecycling.org/wales/gwastraffgardd. Rhaid pleidleisio cyn 5 Tachwedd 2023