Siop Ailddefnyddio Arloesol yn agor yng Nghanolfan Ailgylchu Y Rhyl

Mae siop ailddefnyddio elusennol, newydd sbon, arloesol wedi agor ei drysau i’r cyhoedd yn swyddogol.

Mae’r prosiect arloesol hwn yng Nghanolfan Ailgylchu Y Rhyl, a ddatblygwyd gan Bryson Recycling, Cyngor Sir Ddinbych a Hosbis Dewi Sant yn anelu i ymestyn oes eitemau cartref i’w hailddefnyddio tra’n creu elw i elusen werthfawr. Mae’r siop wedi’i hagor gyda diolch i gefnogaeth gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd ailgylchu ac ailddefnyddio.

Yn siarad yn yr agoriad swyddogol, Dywedodd y Cynghorydd Pete Prendergast, Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych : “Mae cael siop ailddefnyddio yn ffordd wych i newid y ffordd mae pobl yn meddwl am eitemau diangen.

“Bob blwyddyn mae llawer o eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn cyrraedd ein canolfannau ailgylchu fel gwastraff, ond gallai’r eitemau hyn gael eu defnyddio gan rywun arall mewn gwirionedd.”

“Drwy roi pwrpas arall i’r eitemau hyn, mae pobl yn codi arian ar gyfer elusen leol ond hefyd yn lleihau gwastraff ac yn helpu i gynyddu ein graddfa ailgylchu.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r dull cydweithio gwych hwn gan Gyngor Sir Ddinbych, Bryson Recycling a Hosbis Dewi Sant yn dod â nifer o fanteision i’n hamgylchedd a phreswylwyr.

“Mae’r elfen siop yn codi arian i Hosbis Dewi Sant sy’n rhoi mwy o adnoddau i’r elusen helpu cleifion a chadw’r eitemau yn hytrach na’u hanfon i safle tirlenwi, rydym yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a dyfodol pawb.”

“Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y siop hon. Drwy siopa yn siop Ailddefnyddio Y Rhyl rydych yn cefnogi’n lleol, yr amgylchedd a’r elusen hon.”

Ychwanegodd Eric Randall, Cyfarwyddwr Bryson Recycling: “Rydym yn falch o weld Siop Ailddefnyddio Hosbis Dewi Sant nawr yn agored ar ein safle. Rydym yn annog unrhyw un sy’n ymweld â’n safleoedd i ddewis ailddefnyddio, gan ei fod hyd yn oed yn well nag ailgylchu. Fel menter gymdeithasol rydym yn awyddus i ddarparu prosiect fel hyn sy’n dod â’r tair haen amgylcheddol, economaidd a lles.”

Dywedodd Margaret Hollings, Cyfarwyddwr Masnachol, Hosbis Dewi Sant “Mae hwn yn ffordd wych i roi bywyd newydd i eitemau diangen tra’n ein helpu i ddarparu gofal i oedolion lleol sy’n gleifion gyda salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau neu’r sawl sydd angen gofal diwedd oes a’u teuluoedd.”

Mae’r siop yn agored saith diwrnod yr wythnos o 9am tan 4.30pm (9am – 4pm Tachwedd i Mawrth) ac o 9am – 3.30pm ar ddydd Sul.