Bryson yn Gwobrwyo Elusennau Hosbis Lleol Trwy ei Ymgyrch Ailgylchu

Mae Bryson Recycling wedi cyfrannu bron i £6000 i ddwy elusen leol trwy ei ymgyrch “Gwobrau Ailgylchu” sy’n ceisio rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu lleol tra’n codi arian i elusennau.

Mae Bryson Recycling yn rhedeg tair Canolfan Ailgylchu yn ardal Cyngor Sir Ddinbych yn y Rhyl, Dinbych ac Abergele, a dwy ganolfan yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym Mochdre ac Abergele. Am bob tunnell a gafodd ei hailgylchu ar safleoedd Sir Ddinbych dros y flwyddyn ddiwethaf, cyfrannwyd £1 i Hosbis Sant Cyndeyrn; am bob tunnell a gafodd ei hailgylchu ar safleoedd Conwy, cyfrannwyd £1 i Hosbis Dewi Sant.  

Lansiwyd yr ymgyrch hon ym mis Ebrill 2022 ac yn ystod y flwyddyn cafodd 3148 tunnell eu hailgylchu ar safleoedd Conwy, felly rhoddwyd £3148 i Hosbis Dewi Sant. Ailgylchwyd 2759 tunnell ar safleoedd Sir Ddinbych, gan wneud cyfraniad o £2759 i Hosbis Sant Cyndeyrn.

Dywedodd Mark Ellis, Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol Bryson Recycling:

“Nod ein hymgyrch Gwobrau Ailgylchu yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ailgylchu a’i gyfraniad cadarnhaol i’n cymuned. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth gyda dwy elusen werth chweil eleni sy’n darparu gwasanaeth mor hanfodol i’r ardaloedd lle rydym yn byw ac yn gweithio”.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaeth ac Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Mae’n wych bod preswylwyr sy’n defnyddio ein canolfannau ailgylchu nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ond hefyd yn gallu dod â budd i’n cymunedau drwy gyfrannu i Hosbis Dewi Sant. Rydym yn annog pawb i ddal ati i ailgylchu er mwyn i’r cynllun Gwobrau Ailgylchu gynnig hyd yn oed mwy o gymorth.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, Cyngor Sir Ddinbych:  

“Mae’r fenter wych hon gan Bryson Recycling yn ffordd ardderchog o roi rhywbeth nôl i’r gymuned ac i ddwy elusen werthfawr, sef Hosbis Sant Cyndeyrn a Hosbis Dewi Sant.

“Gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng newid hinsawdd ym mis Gorffennaf 2019 a’i nod yw dod yn Gyngor Carbon Net Sero erbyn 31 Mawrth 2030.  Mae ailgylchu yn elfen allweddol o’r rhaglen uchelgeisiol hon ac mae’r Cyngor yn falch o’i gyfraddau ailgylchu uchel, er bod lle bob amser i wella, ac rydym yn gweithio’n galed gyda phartneriaid fel Bryson i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwn.”

Dywedodd Adrian Owen, Rheolwr Codi Arian Hosbis Dewi Sant:

 “Diolch yn fawr iawn i Bryson Recycling am y gefnogaeth barhaus i Hosbis Dewi Sant. Mae’r Ymgyrch Gwobrau Ailgylchu a’r Siop Ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Mochdre wedi helpu i godi arian mae angen mawr amdano ar yr hosbis. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y rhodd hael o £3148 drwy law safleoedd Ailgylchu Conwy a bydd yr arian o gymorth mawr i ni gan ein galluogi i gefnogi’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu mewn pob math o ffyrdd – diolch yn fawr iawn i chi!”

Dywedodd Michaella Brannan, Rheolwr Codi Arian Hosbis Sant Cyndeyrn:

“Rydym mor ddiolchgar i Bryson Recycling am wneud Hosbis Sant Cyndeyrn yn un o’i bartneriaid corfforaethol dros y flwyddyn ddiwethaf ac am chwarae rhan hollbwysig wrth warchod yr amgylchedd yn lleol a hybu cadwraeth ein planed.

Mae’r cwmni nid yn unig wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned drwy hybu ailgylchu, mae hefyd wedi codi arian mae dirfawr ei angen ar yr hosbis lleol, yn ogystal â  chodi ymwybyddiaeth am yr elusen.”