Ailgylchu yn Gwobrwyo Elusennau Lleol

Mae Bryson Recycling wedi addo rhoi cymorth i ddwy elusen leol y gaeaf hwn fel rhan o’i hymgyrch Gwobrau Ailgylchu.

Fel rhan o’r ymgyrch arloesol hon, mae Bryson yn cyfrannu £1 i elusen am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir trwy’r gwasanaeth biniau brown mae’r cwmni yn ei ddarparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

O ddechrau mis Hydref 2021 tan ddiwedd mis Medi 2022, casglodd Bryson 6690 tunnell o wastraff gardd, felly bydd yn cyfrannu £6690 i elusennau.

Mae dwy elusen leol wych ar y rhestr fer eleni, ac mae Bryson yn gofyn am gymorth preswylwyr Conwy i ddewis faint o arian i gyfrannu i bob un. Bydd y cyfraniadau yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau y byddant yn eu derbyn.

Yr elusennau yw Hope Restored, sy’n rhedeg banc bwyd ac yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth a chyngor i wella bywydau pobl ddigartref ac anghenus yn ardal Llandudno, a Conwy Mind sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl a lles i bobl ar draws Sir Conwy trwy ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau cynhwysol.

Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling; “Mae ein hymgyrch ‘Gwobrau Ailgylchu’ yn helpu elusennau lleol sy’n darparu gwasanaethau gwerthfawr yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithio, gan annog pobl i ailgylchu cymaint â phosibl ar yr un pryd. Rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni gan olygu y gallwn roi’r arian hwn i elusennau sy’n cynnig cymorth hanfodol i unigolion a theuluoedd yn ardal Conwy”.

Ychwanegodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gymdogaeth a’r Amgylchedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ““Trwy ailgylchu eu gwastraff gardd, gall preswylwyr lleol helpu’r amgylchedd a chefnogi elusennau lleol ar yr un pryd. Rydym yn awyddus i weld preswylwyr lleol yn cymryd rhan yn yr ymgyrch a hoffwn eu hannog i bleidleisio dros eu hoff elusen”.

I bleidleisio dros eich hoff elusen, ewch i https://www.facebook.com/BrysonRecyclingWales. Rhaid pleidleisio erbyn 20 Tachwedd 2022.