Bryson Recycling yn Noddi Banc Bwyd Crest

Mae Bryson Recycling yn noddi banc bwyd Crest Cooperative yng Nghyffordd Llandudno sy’n cynnig cymorth hanfodol i bobl yn y gymuned leol.

Mae banc bwyd Crest yn rhoi cymorth i dros 150 o bobl bob mis ar hyn o bryd ond mae’n disgwyl gweld cynnydd mawr yn y galw dros y misoedd nesaf wrth i brisiau tanwydd a bwyd godi. Mae Bryson yn noddi’r banc bwyd eleni a bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i brynu eitemau bwyd a nwyddau ymolchi hanfodol.

Mae Bryson Recycling yn rheoli dwy Ganolfan Ailgylchu ac yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ym mis Ebrill eleni daeth yn gyfrifol am reoli tair Canolfan Ailgylchu ychwanegol ar ran Cyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling: “Rydym yn falch iawn ein bod yn cydweithio gyda Crest i fynd i’r afael â thlodi bwyd yn ein hardal leol. Fel menter gymdeithasol mae’n bwysig ein bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithio”.    

Dywedodd Rod Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Crest: “Rydym yn darparu bwyd i bawb yn ein banc bwyd, gan ein bod yn gwybod pa mor anodd yw rhoi bwyd ar y bwrdd wrth i gostau byw gynyddu. Mae Crest wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn ein cymuned yn gallu cael gafael ar fwyd a nwyddau hylendid hanfodol mor ddidrafferth â phosibl, ac rydym yn diolch i Bryson am eu cefnogaeth”.

Mae banc bwyd Crest yn Siop Crest ar Ffordd Ferry Farm, Cyffordd Llandudno, ac mae ar agor bob dydd Mawrth a dydd Iau, 11am - 12pm. Gall unrhyw un gael bwyd o’r pantri, heb brawf modd ac mae ar agor i bawb.

Os hoffech gyfrannu eitemau i’r banc bwyd gallwch wneud hynny yng Nghanolfan Ailgylchu Bryson ym Mochdre. Rydym yn derbyn eitemau fel grawnfwydydd, tuniau bwyd, te, coffi a bisgedi. Cofiwch sicrhau nad yw’r eitemau wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio erbyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Fanc Bwyd Crest, ewch i https://www.crestcooperative.co.uk/crest-foodshare/ neu ffoniwch 01492 596783.