Bryson yn Cefnogi Elusennau lleol Trwy ei Ymgyrch Ailgylchu

Mae Bryson Recycling yn cyfrannu dros £6500 i ddwy elusen leol trwy ei ymgyrch flynyddol “Gwobrau Ailgylchu” sy’n ceisio rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu lleol tra’n codi arian y mae gwir ei angen ar elusennau.

Mae Bryson Recycling yn rheoli tair Canolfan Ailgylchu yn ardal Cyngor Sir Ddinbych, yn y Rhyl, Rhuthun a Dinbych, a dwy ganolfan yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ym Mochdre ac Abergele. Am bob tunnell a ailgylchwyd yn safleoedd Sir Ddinbych y llynedd, byddwn yn cyfrannu £1 i RNLI y Rhyl; am bob tunnell a ailgylchwyd yn safleoedd Conwy, byddwn yn cyfrannu £1 i Abergele Community Action.  

Lansiwyd yr ymgyrch hon ym mis Ebrill 2023 ac yn ystod y flwyddyn ailgylchwyd 3171 tunnell yn safleoedd Sir Ddinbych, gan olygu y bydd RNLI y Rhyl yn derbyn cyfraniad o £3171. Ailgylchwyd 3411 tunnell yn safleoedd Conwy, felly bydd Abergele Community Action yn derbyn cyfraniad o £3411.

Dywedodd Gareth Walsh, Rheolwr Cyffredinol Bryson Recycling:

“Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cyfrannu’r arian hwn trwy ein hymgyrch Gwobrau Ailgylchu i ddwy elusen wych sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnahol yn yr ardal. Mae’n newyddion da bod preswylwyr sy’n defnyddio ein Canolfannau Ailgylchu nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, ond hefyd yn dod â budd i’n cymunedau. Hoffwn annog preswylwyr i ddal ati i ailgylchu fel y gall y cynllun Gwobrau Ailgylchu helpu mwy o elusennau”.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Ddinbych, “Mae hon yn fenter wych gan Bryson Recycling ac yn ffordd dda o roi rhywbeth nôl i’r gymuned ac i ddwy elusen werthfawr, sef Abergele Community Action ac RNLI y Rhyl.  Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng newid hinsawdd ym mis Gorffennaf 2019, a’r nod yw dod yn Gyngor Sero Net erbyn 31 Mawrth 2030.  Mae ailgylchu yn elfen allweddol er mwyn cyflawni’r rhaglen uchelgeisiol hon ac mae’r Cyngor yn falch o’i gyfraddau ailgylchu uchel, er bod lle i wella bob amser ac rydym yn gweithio’n galed gyda phartneriaid, fel Bryson, i gyrraedd y targed hwn.”

Dywedodd Martin Jones, Llywiwr Cwch Achub RNLI y Rhyl “Fel elusen, mae’r RNLI yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd er mwyn parhau i gynnig gwasanaeth achub bywyd. Mae cyfraniadau yn helpu i dalu am offer a hyfforddiant ar gyfer ein criwiau o wirfoddolwyr yn y ffordd orau, i’w cadw’n ddiogel tra’n achub bywydau ar y môr ac o amgylch yr arfordir. Hoffem ddiolch i Bryson Recycling am eu cyfraniad gwych i RNLI y Rhyl. Dyma enghraifft wych arall o’r ysbryd cymunedol arbennig yn ein hardal.”

Dywedodd Linda Tavernor, Prif Reolwr Strategol Abergele Community Action, “Rydym wrth ein bodd i dderbyn y cyfraniad hwn a fydd yn cyfrannu at ein gwaith yn Abergele a’r ardaloedd cyfagos. Bydd pob ceiniog yn cael ei wario er mwyn helpu pobl sy’n wynebu argyfwng, trwy ddarparu parseli bwyd argyfwng i bobl yn ogystal â chanfod y rhesymau dros yr argyfwng er mwyn helpu i ddod o hyd i atebion addas. Rydym yn cyfeirio pobl at asiantaethau eraill sy’n gallu eu helpu i ddatrys y problemau wrth wraidd yr argyfwng fel na fydd angen iddynt ddibynnu ar barseli bwyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am Bryson Recycling ewch i www.brysonrecycling.org.