Bryson yn dathlu Ymgyrch Ailgylchu Lwyddiannus er budd Elusennau

Mae Bryson Recycling wedi cyfrannu £6690 i ddwy elusen leol fel rhan o’i hymgyrch “Gwobrwyo Ailgylchu”.

Bob blwyddyn mae cwmni Bryson yn rhoi £1 i elusen am bob tunnell o wastraff gardd a gesglir drwy’r gwasanaeth biniau brown mae’n ei ddarparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Rhwng dechrau mis Hydref 2021 a diwedd mis Medi 2022, casglodd Bryson 6690 tunnell o wastraff gardd, gan wneud cyfanswm y cyfraniad elusennol yn £6690. Eleni, dewiswyd dwy elusen leol, Conwy Mind a Hope Restored, a gofynnwyd i breswylwyr Conwy gymryd rhan mewn pleidlais ar-lein i ddewis faint o arian i’w roi i bob un.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet dros y Gymdogaeth a’r Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Rwyf yn hynod o falch fod y ddwy elusen a ddewiswyd yn mynd i elwa’n sylweddol ar gynllun Bryson Recycling, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iawn i’r holl staff sydd wedi bod yn gysylltiedig â hyn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bryson Recycling ac i’n preswylwyr am eu hymrwymiad i ailgylchu. Mae’r ddwy elusen yn deilwng iawn a byddant yn gwneud defnydd gwych o’r cymorth, yn wir, byddent yn croesawu unrhyw gymorth ychwanegol y gall preswylwyr ei roi. Hoffwn ddymuno cyfarchion y tymor i bawb, yn enwedig y rhai mwyaf anghenus ar hyn o bryd”.

Mae Conwy Mind yn rhoi cymorth i wella iechyd a lles meddyliol pobl ar draws Sir Conwy drwy ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau cynhwysol. Enillodd yr elusen 53% o’r bleidlais, gan olygu cyfraniad o £3546. Wrth gyfeirio at y cyfraniad, dywedodd Denise Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Conwy Mind ‘Rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi pleidleisio dros yr elusen, bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i roi cymorth iechyd meddwl hanfodol i bobl yng Nghonwy, fel unigolion a grwpiau. Mae Conwy Mind yma i bawb a gyda’n gilydd gallwn gynnig gwell cymorth iechyd meddwl yn y flwyddyn i ddod.’

Mae Hope Restored yn rhedeg banc bwyd ac yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth a chyngor i wneud bywydau pobl ddigartref a phobl anghenus yn ardal Llandudno ychydig yn haws. Derbyniodd yr elusen 47% o’r bleidlais gan olygu cyfraniad o £3144. Dywedodd Sefydlydd Hope Restored, Brenda Fogg: “Rydym eisiau diolch i Bryson am y cyfle gwych hwn ac i bawb a wnaeth bleidleisio dros yr elusen. Mae hwn yn swm mawr o arian i ni ei dderbyn ar adeg mor bwysig o’r flwyddyn, a bydd yn ein galluogi i barhau i helpu’r rheini sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod digynsail hwn.”

Dywedodd Mark Ellis, Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol Bryson Recycling: “Fel menter gymdeithasol leol, mae’n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r bobl y mae angen ein cymorth arnynt fwyaf. Mae ymgyrch Gwobrau Ailgylchu eleni wedi rhagori ar ein disgwyliadau wrth i dros 2000 o bobl gymryd rhan yn ein pleidlais ar-lein. Diolch i’r holl breswylwyr a wnaeth gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni – naill ai drwy bleidleisio dros eu hoff elusen neu drwy ailgylchu eu gwastraff gardd”.

Mae’r gwasanaeth gwastraff gardd yn darparu casgliadau bob pythefnos i aelwydydd lleol o’r cartref. I gael rhagor o fanylion ewch i www.brysonrecycling.org.