Casgliadau Gwastraff Gardd

Rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd yng Nghonwy.

 

Gallwch nawr danysgrifio i'n casgliadau ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2024 - Mawrth 2025

COFRESTRWCH YN AWR 

Tanysgrifiadau’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd

GWYBODAETH BWYSIG 

Y cyfnod tanysgrifio presennol yw rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, bydd y pris yr un fath os byddwch yn tanysgrifio yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Bydd eich tanysgrifiad yn dechrau 14 diwrnod ar ôl i chi dalu.

Cyfrifoldeb y cwsmer yw tanysgrifio i’r gwasanaeth o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y casgliad nesaf er mwyn sicrhau bod y tanysgrifiad wedi’i brosesu a/neu bod y bin brown wedi cael ei ddanfon ac ar gael i’w lenwi a’i gasglu.

Bydd biniau gwastraff gardd newydd neu ychwanegol a gaiff eu harchebu yn ystod misoedd Ionawr neu Chwefror yn cael eu danfon cyn 1 Ebrill 2024, bydd unrhyw finiau y byddwch yn eu harchebu ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu danfon atoch cyn pen 14 diwrnod.

Gellir canslo’r tanysgrifiad blynyddol ar unrhyw adeg; fodd bynnag bydd unrhyw ad-daliadau yn unol â’n Polisi Ad-daliadau yn unig. Ni fydd Bryson Recycling yn symud biniau o eiddo os bydd cwsmer yn dewis peidio ag aildanysgrifio i’r gwasanaeth, yn canslo’r gwasanaeth neu’n lleihau nifer y biniau roedd yn arfer talu tanysgrifiad amdanynt.

DERBYN



Gweld taflen am y gwasanaeth

A fyddech cystal â darllen Telerau ac Amodau ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi danysgrifio i’r gwasanaeth?

  • Byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth.

  • Os ydych eisoes yn gwsmer, byddwch yn derbyn sticer taliad yn y post ar gyfer pob bin rydych wedi talu tanysgrifiad ar ei gyfer.

  • Os ydych newydd danysgrifio i’r gwasanaeth, byddwn yn danfon eich bin(iau) newydd â’r sticeri taliad yn sownd ynddynt.

  • Byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos.  

  • Os nad yw eich eiddo yn addas ar gyfer bin, ffoniwch ni ar 01492 555 898.

Edrychwch am eich diwrnod casglu

Pam ddylwn i danysgrifio i’r gwasanaeth hwn?

  • Casgliad rheolaidd bob pythefnos.
  • Bin olwynion 240 litr hawdd ei ddefnyddio.
  • Dim angen mynd i’r Ganolfan Ailgylchu i gael gwared ar wastraff gardd.
  • Mae’r holl wastraff gardd rydym yn ei gasglu yn cael ei gompostio’n lleol.
  • Am bob tunnell o wastraff rydym yn ei gasglu, rydym yn cyfrannu £1 i elusen leol drwy ein Hymgyrch Gwobrau Ailgylchu.

Faint mae’n ei gostio?

  • Cost casgliadau yw £40 y flwyddyn am un bin brown.
  • Costau casgliadau yw £20 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol.
  • Gall pob cartref archebu hyd at 4 bin.
  • Bydd biniau yn cael eu danfon am ddim ar eich archeb gyntaf. Codir tâl o £20 i ddanfon unrhyw finiau ychwanegol ar ôl eich archeb gyntaf. 
  • Mae’r rhain yn brisiau sefydlog ar gyfer y flwyddyn, rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025. Gallwch danysgrifio i’r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond bydd y tâl blynyddol yr un fath.

Pa eitemau gallwch eu hailgylchu

Rhoi gwybod am broblem

Cwestiynau Cyffredin 

Adborth Cwsmeriaid 

Mae Bryson Recycling wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Rydym yn gwerthfawrogi barn ein cwsmeriaid ac rydym yn falch o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu sylwadau ynglŷn â sut gallwn wella ein gwasanaethau.

AROLWG BODDHAD CWSMERIAID