Cwestiynau Cyffredin

Pam nad yw’r bin wedi cael ei wagio?

Os ydych wedi talu eich tanysgrifiad blynyddol, rydych wedi gosod sticer taliad ar eich bin ond nid yw wedi cael ei wagio, rhowch wybod i ni yma. Bydd aelod o staff yn cysylltu â chi ynglyn â’ch casgliad.

Os nad ydych wedi cofrestru i dderbyn casgliadau gwastraff gardd ar gyfer y cyfnod tanysgrifio blynyddol cyfredol yna gallwch wneud hynny yma.

Ai taliad unwaith ac am byth yw hwn?  Na, bydd angen i chi dalu bob blwyddyn am eich gwasanaeth casglu. Byddwn yn codi tâl am bob bin sy’n cael ei gasglu.
A fydd y tâl tanysgrifio yn llai os byddaf yn ymuno â’r cynllun yn hwyrach yn y flwyddyn? Na fydd, bydd y tâl yr un fath ni waeth pryd byddwch yn tanysgrifio.
A oes modd i mi dalu am gasgliad untro yn unig? Nac oes, dim ond tanysgrifiad blwyddyn rydym yn ei gynnig. Gallwch ddechrau eich tanysgrifiad ar unrhyw adeg ond byddwch yn talu am y flwyddyn gyfan.
Ga’ i roi bag leinin yn y bin i’w gadw’n lân neu roi bagiau sy’n cynnwys gwastraff gardd yn y bin? Na chewch, rhaid i’r gwastraff gardd gael ei roi yn rhydd yn y bin. Os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi unrhyw fagiau yn y bin.
A fydd gwastraff gardd ychwanegol yn cael ei gasglu os bydd yn cael ei adael wrth ymyl y bin? Na fydd, dim ond gwastraff gardd sydd yn y biniau fydd yn cael ei gasglu.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn symud tŷ yn ystod y cyfnod tanysgrifio? Os byddwch yn symud i gyfeiriad arall yn Sir Conwy, gallwch fynd â’ch tanysgrifiad gyda chi os byddwch yn rhoi gwybod i ni. Os byddwch yn symud allan o Sir Conwy bydd y tanysgrifiad yn aros gyda’r eiddo.
Beth os oes angen casgliad â chymorth arnaf?

Os nad oes gennych rywun i’ch helpu, gallwch ofyn am gasgliad â chymorth os ydych yn cael trafferth symud eich bin at ymyl y palmant ar y diwrnod casglu.

Mae ein rhestr casgliadau â chymorth yn un wahanol i restr y Cyngor, felly ffoniwch ni ar 01492 555898 os oes angen casgliad â chymorth arnoch ar gyfer eich bin(iau) brown. 

Does gen i ddim lle ar gyfer bin gwastraff gardd Bydd gan y rhan fwyaf o gartrefi le ar gyfer bin gwastraff gardd, sef y ffordd hawsaf i ailgylchu. Os nad yw eich eiddo yn addas ar gyfer bin, ffoniwch ni ar 01492 555898.

Beth os na fydd fy sticer yn cyrraedd?

Ar ôl i chi danysgrifio, dylech barhau i roi eich bin (neu sachau) allan i’w casglu. Does dim angen i chi gysylltu â ni ynglŷn â sticeri gan y bydd eich bin (neu sachau) yn dal i gael eu gwagio fel arfer. 

Pam mae fy nghyfeiriad ar y sticer?

Rydym wedi rhoi cyfeiriad y tanysgrifiad ar y sticer er mwyn helpu i atal twyll, fel pobl yn dwyn sticeri. Y cyfeiriad yn unig sydd ar y sticer, nid enw’r cwsmer. Mae hyn yn sicrhau nad yw enw’r cwsmer yn cael ei ddatgelu.

A allaf gael sticer newydd?

Gallwch archebu sticeri newydd drwy ffonio ein swyddfa ar 01492 555 898. Rydym yn codi tâl o £3 am bob sticer newydd.

A allaf symud y sticer ar ôl iddo gael ei roi’n sownd yn y bin?

Peidiwch â cheisio symud y sticer ar ôl iddo gael ei roi’n sownd yn y bin.

 

Beth sy’n digwydd i’r gwastraff gardd rydych chi’n ei gasglu?

Mae’r gwastraff gardd rydym yn ei gasglu yn cael ei ddefnyddio’n lleol i wneud compost. 

A oes compost am ddim ar gael?

Mae compost am ddim ar gael yn ein Canolfannau Ailgylchu.

Mae compost ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Rydym yn ailgyflenwi’r stoc ar y safleoedd yn rheolaidd, ond mae’n bosibl y bydd y cyflenwadau yn isel ar adegau, neu na fydd compost ar gael o gwbl.

Bydd angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â’n canolfannau ailgylchu. Gallwch drefnu apwyntiad yma.

Os hoffech gael llawer o gompost ar gyfer ysgol neu brosiect cymunedol, cysylltwch â ni gardenwaste@brysonrecycling.org neu 01492 555898.

Sut gallaf wirio fy niwrnod casglu?

Cliciwch yma I wirio’ch diwrnod casglu.

Sawl bag sy’n cyfwerth â’r bin?

Mae ein biniau yn 240L, sy’n cyfwerth â 2 fag gwyrdd.

Mae gen i fin brown ond nid wyf yn ei ddefnyddio mwyach. Sut mae cael cael gwared ar y bin?

Gallwch ddod ag unrhyw finiau nad oes eu hangen arnoch i’n Canolfan Ailgylchu ym Mochdre. Bydd angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â’n canolfannau ailgylchu. Gallwch drefnu apwyntiad yma.

Hoffwn gael bin arall; a oes yn rhaid i mi dalu am ei ddanfon? Nid ydym yn codi tâl am ddanfon bin(iau) ar eich archeb gyntaf, ond codir tâl o £20 i ddanfon unrhyw finiau ychwanegol sy’n cael eu harchebu yn ddiweddarach. 
Beth fydd yn digwydd os bydd y bin brown yn mynd ar goll? Yn gyntaf holwch eich cymdogion rhag ofn eu bod wedi gweld eich bin. Os na allwch ddod o hyd i’ch bin, ffoniwch ni ar 01492 555898 a gallwn drefnu eich bod yn cael bin newydd am ffi (yn dibynnu ar yr amgylchiadau).
Nid yw’r bin wedi cael ei wagio. Os nad yw eich bin wedi cael ei wagio, rhowch wybod i ni yma. Yna bydd aelod staff yn cysylltu â chi i drafod eich casgliad. 
A fydd y casgliadau yn dod i ben yn ystod misoedd y gaeaf?

Na, mae’r casgliadau yn parhau bob pythefnos drwy’r flwyddyn.